SL(6)433 – Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Gwelliannau) (Cymru) 2023

Cefndir a Diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael effaith at ddibenion penderfynu cymhwystra ar gyfer rhyddhad gwelliannau rhag atebolrwydd am ardrethu annomestig, a chyfrifo swm y rhyddhad hwnnw. Maent yn pennu’r amodau y mae rhaid eu bodloni i fod yn gymwys i gael rhyddhad gwelliannau; yn diffinio ystyr “gwaith gwella cymhwysol” at ddiben penderfynu cymhwystra ar gyfer rhyddhad gwelliannau; yn gosod y swm “G”, sy’n penderfynu symiau’r rhyddhad sydd i’w rhoi i hereditamentau penodol y mae’r symiau a godir arnynt yn cael eu cyfrifo yn unol â fformiwlâu penodol; ac yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog prisio priodol ardystio gwerthoedd ardrethol at ddibenion cymhwyso’r Rheoliadau hyn.

Mae’r Memorandwm Esboniadol i’r Rheoliadau yn nodi mai eu bwriad yw cymell buddsoddiad mewn gwelliannau i eiddo drwy ddarparu rhyddhad i dalwyr ardrethi rhag effaith cynnydd mewn gwerth ardrethol ar eu hatebolrwydd am ardrethu annomestig, a fyddai'n digwydd fel arall, am gyfnod o ddeuddeg mis.

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 niwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnod pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.3 – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Pwyllgor yn nodi bod y Rheoliadau hyn yn ymwneud ag Atodlenni 4ZA a 5A (“yr Atodlenni”) i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), ond yn nodi nad yw’r Atodlenni hynny wedi dod i rym eto. Mae’r Atodlenni wedi’u mewnosod yn Neddf 1988 gan Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023 (“Deddf 2023”). O dan adran 19(2) o Ddeddf 2023, bydd yr Atodlenni yn cael effaith mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny. Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2024, a hynny er mwyn cyd-fynd â’r adeg y daw’r Atodlenni i rym.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

21 Rhagfyr 2023